Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.
CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 BWLTRE
- Alternative Id.(alternative) vtls004241385(alternative) (WlAbNL)0000241385
- Dates of Creation
- 1871-1912
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg
- Physical Description
- 0.009 metrau ciwbig (1 bocs)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1774, a'i alw ar ôl y cae y'i codwyd arno sef 'Llain Bwlch y Gwynt', ym mhlwyf Caron-is-clawdd, Sir Aberteifi. Helaethwyd yr adeilad hwn ym 1809, ond ym 1833 codwyd yr ail gapel ar y safle. Ychwanegwyd oriel at y capel hwn fel rhan o'r gwaith adnewyddu ym 1865.
Ffurfiwyd Cymdeithas Eglwysig yn yr ardal yn Nhanyrallt ym 1744, a symudodd y gynulleidfa yn gyntaf i Benlan ym 1758, wrth y dref, cyn iddynt godi'r capel cyntaf ym Mwlchgwynt. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Caron-Llanbedr yn Henaduriaeth De Aberteifi.
Arrangement
Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn ddwy ffeil: Llyfrau Cyfrifon Casgliadau a Llyfr yr Ysgrifennydd.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan Mr Cyril Evans, Tregaron, Rhagfyr 2001.; 0200204876
Note
Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1774, a'i alw ar ôl y cae y'i codwyd arno sef 'Llain Bwlch y Gwynt', ym mhlwyf Caron-is-clawdd, Sir Aberteifi. Helaethwyd yr adeilad hwn ym 1809, ond ym 1833 codwyd yr ail gapel ar y safle. Ychwanegwyd oriel at y capel hwn fel rhan o'r gwaith adnewyddu ym 1865.
Ffurfiwyd Cymdeithas Eglwysig yn yr ardal yn Nhanyrallt ym 1744, a symudodd y gynulleidfa yn gyntaf i Benlan ym 1758, wrth y dref, cyn iddynt godi'r capel cyntaf ym Mwlchgwynt. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Caron-Llanbedr yn Henaduriaeth De Aberteifi.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Archivist's Note
Mai 2002.
Lluniwyd gan Martin Robson Riley.
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Rees, D. C., Tregaron: Historical and Antiquarian (Llandyssul, 1936); Bwlchgwynt, Tregaron: Dau Canmlwyddiant y Capel, 1774-1974 (Llanbedr [Pont Steffan], 1974); [Rees, Joseph], 'Hanes Crefydd yn Sir Aberteifi' (Llsgr. LlGC 361A, [c. 1847]).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
Additional Information
Published