Agorodd Ysgol Genedlaethol Prion yn 1864. Yng Nghyfrifiad 1871, mae sôn am ddwy ysgol ym Mhrion - Ysgol Brydeinig Prion ac Ysgol Genedlaethol/Eglwysig Pant Pastynog.
Pant Pastynog, yn ôl E. Gwynn Matthews, yw'r enw answyddogol ar Ysgol Genedlaethol Prion erioed.
Mae llyfr cofnod cyntaf Ysgol Genedlaethol Prion yn dechrau ym mis Ebrill 1872, ond mae tystiolaeth ei fod yn bodoli cyn hynny. Cafodd gweithred i godi Ysgol Genedlaethol ym Mhrion ei lofnodi ym mis Gorffennaf 1864 ac mae cyfeiriad at agor ysgol ym Mhrion yn y 'North Wales Chronicle' a'r 'Advertiser' ar ddechrau'r flwyddyn honno.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o enwau Penaethiaid cynnar ond, erbyn mis Ionawr 1877, Thomas Jones o Ddinbych oedd Pennaeth yr ysgol iau a babanod cymysg hon. Dilynwyd ef gan John Owen yn 1882, Edward G Thomas yn 1883, R Lloyd yn 1890, Richard Jones yn 1892, Edmund Hudd yn 1895, J Jones yn 1897, a John Davies ym 1898. Ar 30 Rhagfyr, 1901, daeth John Hughes yn Bennaeth a dod â sefydlogrwydd a chynnydd i'r ysgol, nes iddo ymddeol ym mis Rhagfyr 1934 ar ôl 33 mlynedd. Dilynwyd ef gan Thomas Vaughan.
Mae nifer y disgyblion ar gofrestr yr ysgol wedi amrywio dros y blynyddoedd, ond arweiniodd cynnydd mewn niferoedd yn y 1880au at adeiladu ystafell ysgol newydd i ddarparu mwy o le ar gyfer addysgu yn 1890.
Cafodd yr ysgol ei hadnabod gyntaf fel Ysgol yr Eglwys yn Lloegr Prion, yna cafodd yr enw ei newid yn swyddogol i Ysgol Genedlaethol Prion gan y Bwrdd Addysg yn 1903. Ar ôl Deddf 1944, roedd gan ysgolion eglwysig yr opsiwn o ddod yn ysgol 'a gynorthwyir' neu 'a reolir'. Dechreuodd Prion drwy fod yn ysgol a gynorthwyir, ond gyda llai o arian AALl ar gael i ysgolion a gynorthwyir, daeth yn ysgol 'a reolir' erbyn 1960, oherwydd bod angen cymorth ariannol AALl ar yr ysgol i wella ei ffabrig.
Caiff yr ysgol ei hadnabod bellach fel Ysgol Gynradd a Reolir Pant Pastynog - Ysgol yr Eglwys yng Nghymru. Addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2015, roedd 69 o ddisgyblion ar y gofrestr.
Prion National School opened in 1864. In the 1871 Census two schools were mentioned in Prion - Prion British School and Pant Pastynog National School/Church School.
Pant Pastynog, according to E. Gwynn Matthews, has always been the unofficial name of Prion National School.
The first Prion National School log book commences in April 1872 but there is evidence that it existed before then. A deed for the erection of a National School in Prion was signed in July 1864 and a reference to the opening of a school in Prion in the North Wales Chronicle and Advertiser at the beginning of that year.
There is no evidence of the names of early Head teachers but by January 1877 Thomas Jones of Denbigh was the Head teacher of this mixed junior and infants school. He was followed by John Owen in 1882 , Edward G Thomas in 1883, R Lloyd in 1890, Richard Jones in 1892, Edmund Hudd in 1895, J Jones in 1897, and John Davies in 1898. On 30th December 1901 John Hughes became Head teacher and brought stability and progress to the school until his retirement in December 1934 after 33 years. He was succeeded by Thomas Vaughan.
Numbers of pupils on roll at the school has fluctuated over the years but rising numbers in the 1880s resulted in the building of a new school room to provide additional teaching space in 1890.
The school was first known as Prion Church of England School, then the name was officially changed to Prion National School by the Board of Education in 1903. After the 1944 Act church schools had the option of becoming 'aided' or 'controlled'. Prion began by being an aided school but with less LEA funds available to aided schools it became 'controlled' by 1960, needing LEA financial assistance to improve the fabric of the school.
The school is now known as Pant Pastynog Controlled Primary School - a Church in Wales School. The teaching is through the medium of Welsh. In 2015 there were 69 pupils on roll.
Mae hwn yn gasgliad iaith gymysg Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n bolisi gennym i gatalogio eitem yn yr iaith y mae yn ysgrifenedig.
This is a mixed Welsh and English language collection. It is our policy to catalogue an item in the language it is written.
Related material:
PPD/87/1- Photograph
ED/87- Ysgol Gynradd Pant Pastynog, cofnodion o/records of
Secondary Sources:
E. Gwynn Matthews, 'Prion School, Part of the History, 1890 - 1990' (ED/X/87/3)
North Wales Chronicle and Advertiser - 16th January 1864. The opening of Prion School.