Llawysgrifau Evan James a James James, cerddoriaeth a barddoniaeth yn bennaf, 1806-1917, yn cynnwys fersiwn gwreiddiol yr alaw 'Glan Rhondda', y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach fel Hen Wlad fy Nhadau, 1856; barddoniaeth Ieuan ab Iago,1831-1842; dyddiaduron,1806-1827, barddoniaeth, 1837-1849; cyfriflyfrau poced,1836-1837; a beirniadaethau eisteddfodol, 1853-1863. = Manuscripts of Evan James and James James, mainly music and poetry , 1831-1917, including the original version of the tune 'Glan Rhondda', which later became known as Hen Wlad fy Nhadau, 1856; poetry of Ieuan ab Iago, 1831-1842; diaries, 1806-1827, poetry, 1837-1849; pocket account books, 1836-1837; and Eisteddfod adjudications, 1853-1863.
Llawysgrifau Evan James
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 EVANMES
- Alternative Id.(alternative) vtls003844233(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1806-1917
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg.
- Physical Description
- 0.029 metrau ciwbig (1 bocs, 1 amlen)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-1878), gwehydd wrth ei alwedigaeth, a'i fab James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), o Bontypridd, Morgannwg, y naill ar ôl y llall oedd awdur a chyfansoddwr Hen Wlad fy Nhadau, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn anthem genedlaethol Cymru. Gweithiai James James gyda'i dad a chadwodd dafarndai ym Mhontypridd ac yn Aberpennar ar ol 1873.
Arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: llyfr cerddoriaeth Iago ap Ieuan; barddoniaeth Ieuan ap Iago; dyddiaduron poced; cyfriflyfr poced; a barddoniaeth.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Caerdydd; Adnau; 1938.
Note
Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-1878), gwehydd wrth ei alwedigaeth, a'i fab James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), o Bontypridd, Morgannwg, y naill ar ôl y llall oedd awdur a chyfansoddwr Hen Wlad fy Nhadau, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn anthem genedlaethol Cymru. Gweithiai James James gyda'i dad a chadwodd dafarndai ym Mhontypridd ac yn Aberpennar ar ol 1873.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gellir cael mynediad i'r catalog ar lein.
Archivist's Note
Mawrth 2003
Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published