Papurau T. Glynne Davies, [1822]-2010 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth; dyddiaduron; drafftiau cynnar o’i bryddest fuddugol ‘Adfeilion’ y dyfarnwyd iddo’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; cyfrol o’i gerddi cynnar; cynllun o’i nofel Marged (Llandysul, 1974) a chopi gyda nodiadau a chywiriadau yn ei law; a sgriptiau dramâu a rhaglenni radio. = Papers of T. Glynne Davies, [1822]-2010 (with gaps), including correspondence; diaries; early drafts of his winning poem ‘Adfeilion’ (Ruins) which was awarded the crown at the National Eisteddfod at Llanrwst in 1951; a volume of his early poems; an outline of his novel Marged (Llandysul, 1974) and a copy with notes and revisions in his hand; and drama and radio scripts.
Papurau T. Glynne Davies
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 TGLYVES
- Alternative Id.(alternative) 99745193902419
- Dates of Creation
- [1822]-2010 (gyda bylchau)
- Name of Creator
- Physical Description
- 7 bocs
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Yr oedd T. Glynne Davies yn fardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr. Ganwyd Thomas Glynne Davies ar 12 Ionawr 1926 yn Llanrwst. Bu’n gweithio fel gohebydd i’r Cambrian News, Y Cymro a’r South Wales Evening Post. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 am ei bryddest ‘Adfeilion’. Yn 1957 ymunodd â’r BBC fel gohebydd newyddion yng Nghaerdydd ac yn 1967 derbyniodd Wobr Personoliaeth Radio’r Flwyddyn. Bu farw 10 Ebrill 1988.
Arrangement
Trefnwyd yn ddau grŵp yn LlGC: papurau personol a phapurau llenyddol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Acquisition Information
Rhoddwyd gan Gareth Glyn, ar ran Gareth Glyn, Geraint Glynne Davies, Aled Glynne ac Owen Glynne Davies ym mis Hydref 2016, 99745193902419.
Note
Yr oedd T. Glynne Davies yn fardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr. Ganwyd Thomas Glynne Davies ar 12 Ionawr 1926 yn Llanrwst. Bu’n gweithio fel gohebydd i’r Cambrian News, Y Cymro a’r South Wales Evening Post. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 am ei bryddest ‘Adfeilion’. Yn 1957 ymunodd â’r BBC fel gohebydd newyddion yng Nghaerdydd ac yn 1967 derbyniodd Wobr Personoliaeth Radio’r Flwyddyn. Bu farw 10 Ebrill 1988.
Mae’r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni T. Glynne Davies oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo ac mae'r dyddiad creu olaf yn dyddio o bapurau'r teulu a dderbyniwyd ar ôl ei farwolaeth.
Archivist's Note
Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997) a phapurau yn yr archif.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Additional Information
Published