Gwr tawel a diwylliedig, enghraifft dda o lenor gwlad, edmygwr beirdd gorau ei genedl, ac un a ymhyfrydai mewn hen hanesion. Cyfres o lythyrau a anfonodd at Mr. Gilbert Williams, M.A., Rhostryfan yw 4219 - myned yn fanwl fanwl i achau rhai o deuluoedd cylch y Bontnewydd; "Pigion y Beirdd" ac "Amryw" sydd ar amlenni 4220-4229. Casgliad cyfoethog o ddyfyniadau barddonol, a cheir R.R. ei hun yn torri allan i ganu yn awr ac eilwaith. Llawer iawn o gopio ar weithiau Owen Williams y Waenfawr, Myrddin Fardd, ac o erthyglau yn y Cymru a'r Geninen. Hoff o gasglu englynion buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol. (Hefyd, dau lythyr oddiwrtho at Glan Rhyddallt, Llanrug, 4219, rhif 8-9).
Rhai o bapurau'r diweddar Mr. Robert Roberts, Field Terrace, Llanberis
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/4219-4229
- Dates of Creation
- d.d.