Dyddiaduron Cadwaladr Jones, Pen-y-ffridd, Llan Ffestiniog

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/4765-4787
  • Dates of Creation
    • 1854-1891

Scope and Content

Dyma'r un gwr ag a gasglodd llyfrau pricio 4756-4759. Annibynnwr selog ydoedd, un o brif golofnau'r achos yn Llan Ffestiniog. Pethau crefydd - pregethwyr, testunau, rhai nodiadau, enwau aelodau a dderbyniwyd o dro i dro, newyddion am amgylchiadau'r eglwys - yw corff mawr cynnwys y dyddiaduron. Llawer iawn am farwolaethau, amryw ohonynt yn digwydd oherwydd damwain yn y gwahanol chwarelau. Tipyn go lew am dywydd mawr. Ambell gyfeiriad mwy diddorol, e.e., criw o 32 yn cychwyn i'r America ddiwedd Ebrill, 1854 (4765). Am hanes yr achos yn y Llan, gwêl Hanes Egl. Ann., i, 481 - 482.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsscj