Mor bigog, pryfoclyd, a diddorol ag erioed. Dechrau gyda dychanu pobl y Coleg yma - Yr Athro Ifor Williams a'r Dr. R.T.Jenkins am gyhoeddi rhes o lythyrau Sion Wiliam Prisiart o Blas y brain yn y Bulletin (Board of Celtic Studies), a hwythau wedi eu hen gyhoeddi eisoes yn Nhraethodydd 1884 (llythyr 1); holi hefyd am gyhoeddiadau Eos Iâl - casglu defnyddiau at yr ysgrif ragorol sydd ganddo yn Trans. Cymm, 1940; yr iechyd mewn cyflwr drwg, y galon ar lawr yn lân, sôn am fynd dan y gyllell yn yr ysbyty, ond cael gohirio'r oruchwyliaeth honno (llythyrau 4,5). Pethau yn myn'd yn bur ddrwg rhyngddo â'r Llyfrgellydd (6-11), hwnnw wedi ei gythruddo gan adroddiad o gyfarfod dathlu Owain Myfyr yn Llanfihangel, lle y dywedodd Bob eiriau bychanus penagored am "benbyliaid y Colegau"; hwnnw hefyd wedi glân alaru ar feirniadu tragywydd Bob Owen ar Gyngor Sir Meirion a'i weithrediadau, ar ddirywiad pawb, ar ddi-ddaioni popeth. Geiriau cryfion o'r ddeutu; perigl trwm fod yr hen gyfeillgarwch yn myned i'r gwellt. ddiwedd Hydref (llythyr 12) daw gwell trefn ar fyd - sôn am lawysgrifau Hendre Gwenllian y bu Bob yn gymorth parod i'w llwybreiddio i'r llyfrgell yma (Bangor MSS. 4165-4167), a gresynu'n ogystal at golli creiriau gwerthfawr a fu yn y ty hwnnw unwaith. Llawer iawn yn y llythyrau olaf (14-21) am yr ymgais - ym Mangor a Chroesor - i gael allan i sicrwydd pwy yn y byd oedd y John Price hwnnw, rheithor Meyllteyrn yn nechrau'r ail-ganrif-ar-bymtheg, a gopiodd lawer o hen lawysgrifau Cymraeg (gwêl yn enwedig, y disgrifiad o Wynnstay 2 gan awdurdodau'r Llyfrgell Genedlaethol). Dengys Bob beth wmbredd o wybodaeth am yr ymchwil yma, gan gyfuno chwilio dyfal a dychymyg byw; ond rhaid yw cyfaddef nad oes neb hyd yn hyn (Chwefror 1942) wedi llwyddo'n sicr gyda John Price, pa un ai un o deulu Neugwl Ganol ydoedd, neu fab hynaf Edmwnd Prys, neu rywun arall yn gyfangwbl. Llythyr doniol iawn yw 19 - Bob yn amddiffyn ei hun yn wyneb arafwch yn ateb cwestiynau drwy roddi cip ar ei brysurdeb o gwmpas Nadolig 1941.
Llythyrau oddi wrth Bob Owen at Lyfrgellydd Coleg Bangor
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/4179
- Dates of Creation
- 1941
- Physical Description
- 21