Y mae'r dyddiaduron yn fanwl odiaeth am fywyd beunyddiol fferm fynyddig yn y berfeddwlad, am nithio a dyrnu, hynt a helynt yr anifeiliaid, siwrneion i Ddinbych a Chaer; gresyn iddo, yng Nhorffennaf, 1838, benderfynu troi o'r Gymraeg i'r Saesneg, a dal ati yn yr iaith honno (yn bur gywir, ar y cyfan). Digon naturiol yw eu cymharu â dyddiaduron William Jones o'r Glybcoed ym Môn yn enwedig gan fod y ddau ddyddiadurwr yn byw yn yr un cyfnod : y mae Robert Roberts yn llawn manylach na W.J. ac yn gywirach ei iaith; cofnodion W.J., serch hynny, yn fwy cyfoethog a phryfoclyd ac amrywiol, oherwydd bod mwy o'r "hen ddyn" ynddo na R.R., ac yn digwydd byw mewn ardal - Amlwch a'r cylch-gyda llygaid mwy agored i'r byd mawr na Llansannan, ac yn llawnach o gymeriadau yn ymateb yn fwy uniongyrchol i adwaith y byd hwnnw. Ond nid oes ddadl am y darlun a rydd R.Roberts o fywyd caled rhyddieithol bob dydd ffermwr yng nghefn gwlad Hiraethog - ar un llaw yn ufudd ddisgybl i'r gyfundrefn Fethodistaidd, ar y llaw arall yn dioddef oddi wrth y trawsnewid a ddaeth ar brisiau ar ôl diddymu Deddfau'r Yd. Talant am eu darllen yn fanwl o'r ddau gyfeiriad yma.
Y mae'r entries ar gyfer y Suliau yn llawn diddordeb - y bobl a ddeuai i wasanaethu i gapel y Rhiw oedd y gweinidogion a'r pregethwyr a geir ar gyfer sir Ddinbych yn nyddiaduron M.C. y cyfnod; nid yw'n rhyw eglur iawn pwy oedd y "Mr Griffith Nantglyn" oedd yn pregethu'n bur aml yno yn 1847 (MS.4243) - gwêl yn enwedig y disgrifiad ar gyfer 16 Mai - am nad oedd un gwr o'r enw ynglyn â Nantglyn yn Nyddiadur swyddogol y Corff. Ai tybed mai y Parch.Thomas Griffith ydoedd, gweinidog Annibynwyr y Rhiw? Nid oedd yn beth anarferol cael ambell bregethwr Annibynol, e.e., y Parch.David Price o Ddinbych yn y Rhiw bore Sul, 29 Mawrth, 1846 (4242).