llawer ohonynt yn wag. Yr oedd yn gystadleuwr mynych a dygn yn y Cyfarfodydd llenyddol a'r mân Eisteddfodau; rhwng td.17 a 31 fe gyfleir catalog o'r testunau yr ennillodd arnynt. Ar ôl ei farw cynhaliwyd "cyfarfod llenorion" i rwyddhau'r ffordd i gyhoeddi ei waith (33); ar tud.119 rhoddir drafft o wynebddalen y llyfr, ac ar tud.120-124 fras-gynllun o'r cynnwys, yn V Rhan. Gellid meddwl mai Mr. G.Roberts - awdur Hanes Pum Plwy' Penllyn - a'i deulu oedd rai o'i brif garedigion. Nid oes dim sicrwydd, fodd bynnag, i'r gwaith byth ymddangos o'r wasg.
Llenwir llawer o'r tudalennau a dyfyniadau : caneuon, diarhebion, digrifwch Cymraeg a Saesneg. Yn ddiddadl, y rhan fwyaf diddorol yw 65-105, darnau o'i ddyddiaduron am 1873-1880. Nid yn ei law ef ei hun y ceir hwy; wedi ei dewis allan y maent gan y bobl dda oedd yn bwriadu cyhoeddi ei weithiau. Llawer iawn am waith fferm a dyledswyddau arferol y dyddiau; a llawer hefyd am yr oriau a roed ar gystadlu, a'r gwobrwyon a dderbyniwyd. Ond yr oedd yn J.H.R. ddyhead am ddyfnach cefndir i'r darllen a'r cystadlu: yn 1876 bu am ychydig fisoedd yn Ysgol Holt; wedi hynny aeth i Goleg y Bala, lle y darllennir amdano yn cael benthyg llyfr Algebra gan Owen Edwards (Syr Owen wedi hynny), ac yn dysgu Logic wrth droed yr Athro Hugh Williams (85-89). Aeth i'r Coleg am yspaid eto yn 1878 - dyma'r adeg y bu am dro gyda Owen Edwards i'r Sarnau a Llandderfel, ac y cafodd fenthyg llyfrau gan "Tom Shankland" (diweddar Lyfrgellydd y Coleg hwn). Yn 1879 rhoddodd gyfnod i addysg y Grammar School, cyfnod go fyr, oherwydd galwadau busnes ei dad yn cludo defnyddiau at godi y ffordd haiarn newydd rhwng y Bala a Ffestiniog; da yw deall iddo roddi un wythnos gyfan o'i amser i ddarllen ac ysgrifennu i'r gwr ieuanc dall J. Puleston Jones (a wnaeth ryfeddodau yn Rhydychen heb fod yn hir wedi hynny) td.103.