Ar y tu allan fe welir, yn ei law ef : "MS. 1798-1804 gan Humphrey Roberts Swyddog i'r Brenin yn y Traeth Coch, Môn, o flaen Dafydd Ddu Eryri". Eithaf gwir am H.R., i'r graddau yr oedd yn waiter and searcher of coastwise ships ar draethau gogledd Môn, go debyg i'r Morgan Hughes hwnnw a gyflawnai yr un gwaith o Bwllheli i Borth Ysgadan tua chanol y ddeunawfed ganrif (Bangor 3871). Ac eithaf gwir am Dafydd yntau : daeth i Fôn yn 1792 fel athro ysgol i Bentraeth; yna o 1795 i 1799 yn fesurydd glo yn Amlwch; o 1799 i 1800 yn cyflawni yr un gwaith yn y Traeth Coch (gwêl thesis M.A. arno gan Mr. G.T.Roberts o Lanrug, td. 20-25). Y MS. hwn a rydd inni'r newydd ychwanegol mai dilyn Humphrey Roberts yr ydoedd Dafydd, a bod ei waith yn dipyn eangach na mesur glo yn unig -
Mae'n wir fy mod yn was i'r Brenhin
Tydi sy'n dilin ar fy ol -
yw geiriau Roberts wrtho ar td. 37, mewn cân o gynghor difrifol i'r bardd rhag gormod diota ("sa di draw oddi wrth y ddiod"). Nid oes ddadl nad oedd Dafydd Ddu a H.R. yn gyfeillion cynnes, canys atebwyd y gân gan Dafydd yn Ebrill 1800, ysgrifennodd hi yn y MS. a'i law ei hun (43-44), a chyda hi gopi o'i Gywydd ar Adgyfodiad Awen (45-46); cyn hynny (td. 33) bu iddo ysgrifennu i lawr Myfyrdod y Bardd yn Glaf.
Ar wahân i'r cyswllt hwn â Dafydd Ddu, y mae i'r MS. lu o bethau diddorol eraill : hymn i'w chanu ar blygain dydd Nadolig (14-15); Carol yn dechrau -
"Down i ganu yn blygeiniol
Bawb heb ras i'r Iesu Rasol, &c"
(22-26); un arall (28-29); ac un arall eto (41-42). Er bod D.Ddu yn rhyw dychanu (td.43) nad oedd H.R. fawr gwell na Dafydd ei hun wrth gipio costreli rum o longau a ddeuai i lan y Traeth Coch, eto nid oes wadu ymddangosiad go argyhoeddiadol o fuchedd dda ar ddail y memrwn hwn : y pedwar pennill a ganodd y bore Sul o Fawrth, 1800, "cyn mynd i ben y Garnedd i wrando John Davis Nanty Glun" (16); nifer o "dextiau'r" Parch. Ebenezer Morris yn swydd Fôn Medi 11-12, 1804, pan bregethodd yn Llanfair P.G., Beaumaris, a Glasinfryn (58); "Cyngor i wyr Ieuaingc" (53); a'r "myfyrdod" o'i eiddo ar brydnawn Sul y 6 o Ragfyr, 1801 (47). Rhai marwnadau. Un am fab iddo ei hun, a fu farw yn 1800, gyda chyfeiriadau at amryw o hen Ymneilltuwyr y fro (17-20); englynion coffa am ail wraig Sion Wiliam Prisiart o Blas-y-Brain, sef Gwen Owen o'r Crafnant (31-2, heb ei gorffen, yn ôl pob golwg); a marwnad i wr ieuainc o'r enw Zechariah (Sacci), 49-52. Gyda llaw , dylai'r pennillion sydd ar td. 27 ddilyn y rhai a welir ar td. 54. Dengys ei annerch i Wilym Ddu o Fôn yn 1802 (55) ei fod yn gwybod rhywbeth am ramadeg Sion Dafydd Rhys, er bod yn dda gan H.R. danysgrifio'r annerch "y'nghell ynfydrwydd gerllaw Pentre'r Anwybodaeth".
Cystal cadw mewn côf mai tide-waiter am gyfnod oedd H.R. Ni fu yn y swydd, a barnu oddiwrth y MS., ond yn 1797-1798 (darllenner td.1-13); ei feistr, sef y Collector of Customs, oedd William Sparrow o'r Red Hill, ger Beaumaris (gwêl Pedigrees, 99); ymhen rhai blynyddoedd ysgrifennwyd cerddi duwiol ar draws y discharges a'r per contra's, a llanwyd y gweddill dail gwynion a marwnadau, carolau, a pheth o waith barddonol D.Ddu Eryri.