Dyddiaduron y diweddar Barch. W. Pari Huws, B.D.

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/4787A-4850
  • Dates of Creation
    • 1867-1935

Administrative / Biographical History

Gweinidog gyda'r Annibynwyr Cymreig, ac un o ragorolion y ddaear. Prin y gellir dweud bod pregethwr mwy cytbwys a sylweddol nag ef yn ei genhedlaeth yng Nghymru; at hynny, yr oedd yn weinidog cydwybodol llafurus, ac yn llawn brwdfrydedd gyda'r agweddau cymdeithasol i'r bywyd crefyddol, yn enwedig gyda'r achos dirwest; fel gwleidydd, yr oedd yn Rhyddfrydwr goleuedig. Nid meudwy cartrefol ydoedd, fel y prawf y dyddiaduron hyn - yr oedd ar y blaen yn y Cwrdd Chwarter, y Gymanfa, a'r Undeb, ac eisteddodd ar lu aneirif o bwyllgorau; yr oedd hefyd yn llenor coeth, yn awdur nifer o erthyglau, a darnau o farddoniaeth.

Mab ydoedd i William Hughes (Gwilym Prysor), crydd, Dolwyddelan, Annibynwr o'r hen stamp, dyn a chred gref ganddo yn M.D.Jones a'r "Hen Gyfansoddiad" (gwel ysgrif ar Gwilym yn y Geninen, 1910, Gwyl Dewi, 56-57, ac englynion coffa iddo gan Pedrog yng Ngheninen 1905 (41), a wobrwywyd yn Nolwyddelan, 1903, er bod Gwilym Prysor wedi marw amryw flynyddoedd cyn hynny; gwel hefyd nodyn gan W.P.H. am ei dad ar gyfer 27 Awst, 1881, iddo gael ei eni yn 1826 (MS.4797), ac am ddyddiadau geni tri brawd i'w dad, ar dudalen olaf yr un dyddiadur. Nid W.P.Huws oedd yr unig bregethwr yn y teulu; yr oedd iddo ddau frawd, Rowland gyda'r Annibynwyr a Griffith Parry gyda'r M.C., oedd ymhlith pregethwyr gorau eu cyfnod. Am blant W.P.Huws, bu Eluned farw yn Hydref 1903 (MS.4818) ar ôl cystudd hir a blin, a bu ei ferch Morfudd farw ym Mai 1925 (MS.4840) - hyhi yn un o fyfyrwyr disgleiriaf Coleg y Gogledd, ac ar ôl hynny yn athrawes yng ngholeg y Barri. Oddi wrth ei fab - Dr. Gwilym Parri Huws - yn awr o'r Hen Golwyn, yn garedig iawn y cafwyd y dyddiaduron hyn.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsswph