Mr. Morgan oedd yn dal y lle, os nad ei pherchen, o'r un teulu a'r Parchn. John Morgan, Matchin, ac Edward Morgan, ficer Towyn Meirionydd (gwêl ysgrifau Mr. William Davies yn yr Haul am Forganiaid Llangelynin yn y fl.1939).
(i) Ochr A. td.124 Llawer iawn o wybodaeth am gadwraeth defaid ym Mawddwy - yr oedd gan Morgan rywle rhwng 450 a 480 ohonynt bob blwyddyn ar gyfartaledd - pa nifer a gneifiai, gyda dosbarthiad manwl o oedran a nodwedd; nodai'n fanwl hefyd y defaid disberod a ddeuai i'w plith, heb anghofio'r nodau clust (td. 11,44). Prynai gryn dipyn oddi wrth ei gymdogion, a gwerthu yn ei dro. Disgrifiadau diddorol o'r gwlan a gadwai'n stôr, llawn o hen dermau cartrefol y wlad - gwlan ysto, anwe, rhonie, ysto galfache, yrionyn (?), & c. (gwêl yn arbennig td. 25,29,32). Ceir y termau wyn llywaeth a swcci ganddo. Gwr o'r enw Morris William oedd yn byw ym Maesglasau yn 1744 (25).
(ii) Ochr B, td.67. Taliadau i wasanaethwyr sydd yma, gan fwyaf, llawn diddordeb i bobl sydd yn astudio cwestiwn cyflogau ganol y ddeunawfed ganrif, a dull eu talu. Tipyn o gowntiau teuluol hefyd, serch mai yn A y digwydd y rhai pwysicaf ohonynt (gwelir llaw y Parch. Edward Morgan yn amlwg ar rai tudalennau, a'r ergyd yw mai ei frawd Richard Morgan oedd yn byw yno, A,93; nid yw'n rhy amlwg pwy oedd y Vincent Humphreys a dderbyniai rent y Plasau yn 1751, A,108).