Llyfr Ioan Rhagfyr

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/4851
  • Dates of Creation
    • d.d.

Scope and Content

Bardd a cherddor (1740-1821), y ceir ysgrif gynhwysfawr arno gan M.O.Jones : Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig, Caerdydd, 1890, td.138-140; ceir hefyd amryw byd o'i gerddoriaeth seciwlar yn y llyfrgell hon, casgliad Ylltyr Williams, yntau hefyd o Ddolgellau - gwêl Bangor 2299. Yn ôl hwnnw yr oedd gan Ioan Rhagfyr frawd o'r enw Robert, oedd hefyd yn gerddor.

Nid cerddoriaeth Ioan sydd yn 4851 ond ei farddoniaeth - englynion go afrosgo, hymnau, a charolau, dim ohonynt a rhyw lawer o eneiniad arnynt. Un o'r rhai mwyaf diddorol yw ei englyn beddargraff i Dr. Griffith Roberts o Ddolgellau, casglwr llyfrau a llawysgrifau (td.41); gwnaed beddargraff i Ioan yntau gan Llywelyn Idris (38). Y mae yn y llyfr fwy nag un llaw, e.e. gwêl td. a, 26-27, 28-29; yn y td. olaf hyn y darllennir:"Hymn o waith merch Robert Roberts Llanllyfni pregethwr Methodys.....", Robert Roberts, Clynnog mae'n bur sicr. Ceir amryw ddyfyniadau o'r hen feirdd yn enwedig ar td. 5-9, 22-24, yn ail ran y MS. daw beirdd mwy cartrefol i fri, llawer yn llaw Ioan Gwernen ar td. 48-51.

Digwydd tablau ar td. 36-38, 43, 46, sydd yn mynd â ni yn bur bell oddi wrth fyd y bardd a'r cerddor, sef allotments o dan ddeddfau cau'r tir comin yn ardal Dolgellau ddechrau'r 19eg ganrif. Pur debyg i'r llyfr hwn unwaith fod yn meddiant teulu Brynrhyg : gwelir enw John Jones Brynrhyg ymhlith yr allottees (td.37); a merch Brynrhyg oedd gwraig Ioan Rhagfyr. Daw ychydig gyffyriau meddygol ar y tudalennau olaf.

Acquisition Information

Rhodd y Dr. G. Pari Huws. Pur debyg i W.P.Hughes ddod ar ei draws wrth fugeilio ei braidd yn Nolgellau ac Islaw'r dref, canys pobl o'r ardal hanesiol honno ymddengys ynddo o gwr i gwr.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmsswph