Papurau amrywiol

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/4899
  • Dates of Creation
    • d.d.

Scope and Content

I ddechrau materion crefyddol : llythyrau John Elias (11), William Roberts, Amlwch (17), a Dr. Lewis Edwards (21); hefyd, "Enwau y dynion oedd yn dal achos y gwaredwr yn Glasinfryn (Môn) ar ôl ei ddechreuad y flwyddyn 1800 ar ôl ymadael o'r Waenarod" (19-20); eto, mawrhad o fywyd a gyrfa Robert Roberts, Ty'n twr, Bethesda (5), a fu farw Mai 26, 1836, un o feibion teulu cadarn y Castell, Llanddeiniolen (J.E.Griffith : Pedigrees, 381). Yn 25 ceir adlais gref o'r twrw gydag Eglwys Rydd y Cymry yn Lerpwl, ac yn 1-4, lythyr diddorol (1828) yn disgrifio anhawsterau'r Bedyddwyr Albanaidd yn Harlech. Llawer iawn am lenorion : llythyrau gan Alafon (49, 56-59); cyfeiriad at Bryfdir (63); dau lythyr gan Eifion Wyn (159-163); beirniadaeth yn llaw Syr John Morris-Jones (64-68); llythyrau at Dr. Roberts (Isallt), 20-36; ac englynion gan Dr. Puleston Jones (46-8). Llenorion gwahanol yw Mr. Vaughan Roberts o Lanarmon-yn-Iâl, gyda chyfraniad gwerthfawr ar dermau gwyddonol Cymraeg (138-143), a'r ddiweddar Miss Gwenllian Morgan o Aberhonddu, yn cyflwyno gwybodaeth lawn a sicr am Gatholigion Brycheiniog (115-130). Atgofion y diweddar Barch. Gwynedd Roberts am Eben Fardd fel athro ysgol (28).

Trist iawn yw cysylltiadau dau o'r llythyrau - llythyr olaf (113) Mr. W.R.Jones o Amlwch, un o brif garedigion y Llyfrgell hon (bu farw Ebrill 19, 1941); a llythyr olaf J.Arthur Pryce, y cyfreithiwr eglwysig hyfedr, Canghellor esgobaeth Bangor am rai blynyddoedd, a'r prif awdurdod ar frwydr datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru (134 - ysgrifennwyd ef 8 Mai, 1942). Trist mewn ffordd arall yw 152-3, copi o'r S.W.Evening Post am Fawrth 21, 1941, yn cyfleu'r llanastr a wnaed gan y gelyn yn y dref honno. (Abertawe)

Buddiannau'r llyfrgell sydd fwyaf amlwg yn 73-76 (adroddiad Mrs. Gwyneddon Davies ar gasgliad cerddorol Ylltyr Williams), 80 (llyfrau marine insurance yn Nefyn) ac 88 (llythyr Mrs. S. Farnell ynghylch casgliad llyfrau ei gwr, y diweddar Is-ganghellor L.R.Farnell o Rydychen). Hen gyfeillion i'r llyfrgellydd a ysgrifennodd 83-87 (E.Price Evans, diweddar brifathro Ysgol Ramadeg Warrington), 96-103 (Mr. J.W.Jones, Ysgol Ramadeg Wigan), 144-151 (Mr. John Rowlands, Abergele), a 154-8 (G.W.Whittington o'r Sgeti).

Tair eitem eto : pennillion doniol gan John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn (69); llythyr tra diddorol oddi wrth O.D.Jones, Abergwaen (at J.W.Jones, Tanygrisiau) ar rai o hen gymeriadau Ffestiniog, 104-108; a nifer o donau y dywedir i Evan Williams telynor o Langybi eu cyfansoddi (164).