Gan bregethwyr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (a lle cryf i gredu mai John Williams, Llecheiddior yn Eifionydd ydoedd). Amryw enwau hen achosion (yn hytrach, yr achosion presennol pan addolid mewn lleoedd gwahanol). Yr oedd yn arfer ganddo grynhoi gyda'i gilydd yr adnodau y pregethai arnynt mewn lleoedd neilltuol, er mwyn peidio (mae'n debyg) pregethu yr un bregeth drosodd drachefn i'r un gwrandawyr, arferiad y byddai'n dda i rai o bregethwyr y dyddiau hyn ei efelychu.
Llyfr Testunau
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/4213
- Dates of Creation
- 1818-1822