CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Melin-y-Coed, Llanrwst

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BETHMC
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004240409
      (alternative) (WlAbNL)0000240409
  • Dates of Creation
    • 1933-1940
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (1 bocs)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1933-1940.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Melin-y-Coed, ym mhlwyf Llanrwst, Sir Ddinbych. Codwyd y capel hwn mewn ymateb i lwyddiant yr Ysgol Sul yn yr ardal a ddechreuodd oddeutu 1793.
Yn y blynyddoedd cynnar 'roedd yr Ysgol Sul yn dra symudol nes y penderfynwyd codi cartref parhaol. O'r penderfyniad hwn daeth y syniad o adeiladu capel a agorodd ei ddrysau ym mis Gorffennaf 1827. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Llanrwst yn Henaduriaeth Dyffryn Conwy.

Arrangement

Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn un ffeil: Llyfr yr Ysgrifennydd.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Rhodd gan Mrs Eirlys Hughes, Llandudno, gweddw'r llyfrwerthwr David E. Hughes, Ebrill 2002.; 0200204400

Note

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Melin-y-Coed, ym mhlwyf Llanrwst, Sir Ddinbych. Codwyd y capel hwn mewn ymateb i lwyddiant yr Ysgol Sul yn yr ardal a ddechreuodd oddeutu 1793.
Yn y blynyddoedd cynnar 'roedd yr Ysgol Sul yn dra symudol nes y penderfynwyd codi cartref parhaol. O'r penderfyniad hwn daeth y syniad o adeiladu capel a agorodd ei ddrysau ym mis Gorffennaf 1827. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Llanrwst yn Henaduriaeth Dyffryn Conwy.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC, 2001-.

Archivist's Note

Mai 2002.

Lluniwyd gan Martin Robson Riley.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Hy. Jones, 'Hen Dystysgrifau Diddorol', Goleuad, Hydref 1923; William Williams, 'Richard Roberts, Melyn y Coed', Goleuad, Rhagfyr 1923; William Williams, 'Ysgol Sul Melin y Coed', Goleuad, Ionawr 1924.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Ceir cofnodion eraill yn LlGC, sef nodiadau a thoriadau papur newydd am hanes yr Achos mewn llyfrau ymarferion a gasglwyd gan W. Williams, 1916-1932, CMA III/EZ3/149; crynodebau o weithredoedd y Capel, 1829 a 1848, Llsgr. LlGC 12844C; rhestr o aelodau'r Capel, 1905, Llsgr. LlGC 18172A, a hanes llawysgrif yr Ysgol Sul, [gan Catherine Jones], 1835, Llsgr. LlGC 21058B. Ceir hefyd adroddiadau blynyddol, 1916, 1931, 1934-1935, 1950 a 1966 yn LlGC. Ceir hanes yr Achos yn Archifau Prifysgol Cymru, Bangor a hefyd ceir hanes a lluniau o'r Capel yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun.

Additional Information

Published