Papurau R. G. Berry

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 R
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004316354
      (alternative) (WlAbNL)0000316354
  • Dates of Creation
    • [19 gan., hwyr] - 1945, 1954-1962
  • Physical Description
    • 2 ffolder, 2 amlen
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau, nodiadau a sgriptiau T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, yn enwedig ar gyfer rhaglen nodwedd ar R. G. Berry, 1954, a darlith, 1962. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys chwech o bregethau llawysgrif R. G. Berry, heb eu dyddio, a llythyrau yn ymwneud â'r rhaglen nodwedd, 1954. Ceir gwahanol gopïau a drafftiau o'r sgriptiau a nodiadau yn ymwneud â hwynt ar draws y grŵp.

Administrative / Biographical History

Gweinidog, llenor a dramodydd oedd Robert Griffith Berry. Fe'i ganed yn 1869 yn Llanrwst. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac i Goleg Bala-Bangor cyn mynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr yng Ngwaelod-y-garth, Morgannwg. Ysgrifennodd nifer fawr o ddramâu ar gyfer eu perfformio gan gwmnïau drama amatur capeli. Bu hefyd yn ysgrifennu straeon byrion. Bu farw yn 1945.

Arrangement

Trefniant: trefn wreiddiol.

Note

Gweinidog, llenor a dramodydd oedd Robert Griffith Berry. Fe'i ganed yn 1869 yn Llanrwst. Aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac i Goleg Bala-Bangor cyn mynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr yng Ngwaelod-y-garth, Morgannwg. Ysgrifennodd nifer fawr o ddramâu ar gyfer eu perfformio gan gwmnïau drama amatur capeli. Bu hefyd yn ysgrifennu straeon byrion. Bu farw yn 1945.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys y grŵp. Dyfalwyd y dyddiad cynharaf ar sail floruit R. G. Berry.

Preferred citation: R

Related Material

Ceir ychwaneg o bapurau R. G. Berry yn LlGC, megis NLW MS 17445D; Archif Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, 1886-1950; a sgriptiau'r BBC. Ceir nifer o lythyron a gweithiau eraill yn wasgaredig yng nghasgliadau LlGC.

Additional Information

Published